Mae Awdurdod S4C wedi cadarnhau y bydd Ian Jones, sy’n wreiddiol o Dreforus ger Abertawe, yn cychwyn ar ei swydd newydd ar 23 Ionawr.
Ar hyn o bryd mae’n un o uwch-reolwyr A + E Television Networks yn Efrog Newydd ac ar un adeg roedd cyfyngiadau cytundebol efo’r cwmni yn debygol o’i atal rhag cychwyn ar ei swydd newydd tan mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Roedd Ian Jones yn gweithio i’r sianel pan gafodd ei sefydlu yn 1982. Erbyn hyn mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant darlledu yng Nghymru, Prydain a thramor.
Yn ôl datganiad gan S4C “Mae ganddo brofiad eang ar draws darlledu, cynhyrchu, cyd-gynyrchiadau a theledu rhyngwladol a’i swydd fwyaf diweddar oedd Rheolwr Gyfarwyddwr, Dosbarthu Cynnwys a Datblygiad Masnachol, cwmni A+E Television Networks, yn gweithio yn Efrog Newydd.”