David Cameron
Mynnodd David Cameron heddiw na fydd yn “ymddiheuro am wneud safiad dros Brydain” drwy ddefnyddio ei feto i wrthod newidiadau i gytundeb yr Undeb Ewropeaidd i geisio achub yr ewro.
Ond roedd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o wneud “camgymeriad trychinebus” ac mae wedi annog David Cameron i ailymuno â’r trafodaethau gyda 26 aelod arall yr UE er mwyn cael gwell cytundeb i Brydain.
Daeth y ddadl rhwng Cameron a Miliband yn ystod sesiwn olaf Cwestiynau’r Prif Weinidog cyn y Nadolig. A chafodd Nick Clegg ei herio gan Aelodau Seneddol Llafur am dynnu sylw at y rhwyg amlwg o fewn y Glymblaid dros Ewrop drwy gadw draw o’r siambr ddydd Llun, pan oedd y Prif Weinidog yn gwneud cyhoeddiad am y gynhadledd ym Mrwsel.
Ond dywedodd David Cameron: “Ni fydd unrhyw un yn y Tŷ yn synnu o glywed nad ydy’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol bob amser yn cytuno ar Ewrop… Dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am wneud safiad dros Brydain.”
Dywedodd Ed Miliband nad oedd hi’n rhy hwyr i’r DU ailymuno â’r trafodaethau.
Yn y cyfamser mae Nick Clegg wedi bod yn cwrdd ag arweinwyr busnes sy’n bryderus am ddefnydd Cameron o’r feto. Ond dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog wrth y grŵp Business for New Europe bod y Llywodraeth yn “hollol benderfynol” o sicrhau bod Prydain yn aros wrth galon y farchnad sengl Ewropeaidd.