Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r ddynes 47 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nwygyfylchi fore dydd Gwener, 9 Rhagfyr.

Cafodd Susan Griffiths ei lladd yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Glanrafon, Dwygyfylchi tua 5.50am fore dydd Gwener. Cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n credu bod  beiciwr a char wedi bod mewn gwrthdrawiad ac mae’n debyg na wnaeth y gyrrwr stopio. Mae ymchwiliadau’r Heddlu i’r digwyddiad yn parhau.

Fe ddywedodd teulu Susan Griffiths  y “bydd ei gŵr Arwyn, ei meibion Andrew, Steven, Liam, Gavin a’i merch Nicola yn gweld colled enfawr ar ei hôl”.

Eisoes, mae dyn 28 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu ag Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 (os yng Nghymru) neu 0300 3300 101.

Gall unigolion hefyd gysylltu â Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.