Mae cynghorau wedi pentyrru mwy o raean eleni na gafodd ei ddefnyddio drwy gydol y gaeaf diwethaf.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd yr eira cyntaf yn taro Prydain y penwythnos yma ar ôl un o’r hydrefau cynhesaf ers dechrau cofnodion.

Y disgwyl yw y bydd eira yn sawl rhan o’r Alban a gogledd Lloegr prynhawn yfory a bore dydd Llun, ac y bydd y tymheredd yn plymio am ychydig ddyddiau ar draws Ynysoedd Prydain.

Ond dyw’r tywydd gaeafol ddim yn cymharu â’r un cyfnod y llynedd pan syrthiodd eira trwm ar draws Ynysoedd Prydain ddiwedd mis Hydref ac yn ystod mis Rhagfyr.

Bryd hynny roedd y graean yn brin a bu’n rhaid graeanu priffyrdd yn unig mewn sawl rhan o Gymru.

Does dim disgwyl eira trwm drwy gydol y Rhagfyr wrth i’r tywydd annhymhorol o gynnes barhau nes y Nadolig.

Serch hynny dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol fod cynghorau Cymru a Lloegr wedi pentyrru tua 1.4 miliwn tunnell o raean rhyngddyn nhw.

Mae gan 51% o’r cynghorau fwy o raean eleni nag oedd ganddyn nhw ar ddechrau’r gaeaf y llynedd, tra bod gan 48% yr un faint.

Mae gan bob cyngor 4,900 tunnell o raean ar gyfartaledd – tua 1,500 tunnell yn fwy na’r llynedd.

Roedd pob cyngor wedi taenu 4,000 tunnell o raean ar gyfartaledd yn ystod y gaeaf y llynedd.

Mae tua thraean o’r cynghorau wedi prynu lorïau graeanu newydd, meddai’r Gymdeithas Llywodraeth Leol.

“Mae gan gynghorau mwy o raean eleni yn ogystal â gwell cynlluniau i’w ddefnyddio os yw’r eira yn taro,” meddai’r Cynghorydd Peter Box, cadeirydd bwrdd trafnidiaeth y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

“Rydyn ni wedi paratoi yn drylwyr er mwyn cadw ffyrdd yn saff a thraffig yn symud, beth bynnag mae’r tywydd yn ei daflu atom ni.”