Naomi Williams o Positif Politics sy’n crynhoi datblygiadau’r wythnos ym Mae Caerdydd.

Cafwyd wythnos hanesyddol arall yn y Cynulliad yr wythnos, hon y byddai wedi bod yn hawdd methu hynny wrth i faterion gan gynnwys trafodaethau’r gyllideb ynghyd â streic  y sector gyhoeddus yn denu sylw’r rhan fwyaf ohonom.

Gosodwyd y Mesur gyntaf Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad dydd Mawrth diwethaf – Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a fe’i cyflwynwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Efallai nad y ddeddf hon yw’r Mesur mwyaf blaenllaw yn rhaglen y Llywodraeth ond gallai’r ddeddf  weithredu fel prawf  i brofi gallu’r Cynulliad i arfer ei bwerau deddfu newydd. Bwriad y Bil yw symleiddio gweithdrefnau ar gyfer creu a gweithredu is-ddeddfau awdurdodau lleol gan gyflwyno gweithdrefn wahanol i awdurdodau lleol ei ddilyn pan fyddent yn creu sawl is-ddeddf. Bydd y Bil nawr yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leoly Cynulliad fel rhan o Gyfnod Un o’r broses ddeddfwriaethol.

Yn ogytsal â hyn, cafwyd sesiwn hirfaith hyd at chwe awr yn y Cynulliad ddydd Mawrth – er mwyn trafod y busnes a oedd wedi ei osod ar gyfer y drafodaeth dydd Mercher- ble enillodd dau Aelod Cynulliad arall y cyfle i gyflwyno deddfwriaeth o’r meinciau gefn. Bydd Peter Black AC yn cyflwyno ei Fil ar Gartrefi mewn Parciau a fydd yn sicrhau bod yna rheoleiddio tecach yn y broses a ddefnyddir i reoli a gwerthu carafanau preswyl a chartrefi symudol yng Nghymru; tra y bydd Mohammad Asghar AC yn cyflwyno Bil a fydd yn hyrwyddo menter yng Nghymru. Cyflwynodd deunaw Aelod cynnig ar gyfer Bil o’r fath, sy’n dangos bod nifer sylweddol o’r aelodau ym meinciau cefn y Cynulliad yn barod i ddefnyddio’r llwybr hwn i hyrwyddo materion a syniadau gwahanol.

Mis yn ôl, Ken Skates AC oedd yr aelod cyntaf i ennill y fath bleidlais ac mae wrthi yn dechrau llunio’r Bil  a fydd yn sicrhau bod gwaith awdurdodau lleol sydd eisoes wedi sicrhau sefydlogrwydd i blant sy’n derbyn gofal ddim yn dod i ben pan mae’r plentyn cyrraedd ei ben-blwydd yn 18. Mae eisoes wedi dechrau ymgynghori ar gynnwys y Bil a bydd amser wedi ei neilltuo i’w drafod yn ffurfiol yn y siambr ar yr 11eg o Ionawr – cam arall pwysig wrth ddefnyddio pwerau deddfwriaethol newydd y Cynulliad.