James Murdoch
Fe fydd James Murdoch yn wynebau galwadau arno i ymddiswyddo fel cadeirydd BSkyB heddiw yn ystod cyfarfod blynyddol y cwmni.

Mae na brydedron bod ei gysylltiadau gyda’r helynt hacio ffonau yn News International yn niweidio enw da BSkyB.

Yn ôl adroddiadau, mae buddsoddwyr fel Kames Capital, sy’n berchen 1.7% o BSkyB, a Legal & General sy’n berchen 2.9%, yn bwriadu pleidleisio yn  erbyn ail-ethol James Murdoch fel cadeirydd y cwmni.

Mae’r pwysau yn cynyddu ar James Murdoch, mab Rupert Murdoch. Mae’r grŵp lobi Pensions & Investment Research Consultants (Pirc) wedi annog cyfranddalwyr i atal James Murdoch rhag bod yn gadeirydd gan eu bod yn dweud nad yw’n ddigon annibynnol a bod pryderon y gallai ei gysylltiad effeithio delwedd y cwmni.