Peter Hain
Mae Heddlu Llundain yn holi i weld a oedd ditectifs preifat yn gweithio i News International wedi torri i mewn i gyfrifiadur y gwleidydd Peter Hain, pan oedd yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon.

Mae’r stori wedi ei thorri gan bapur y Guardian, sy’n awgrymu bod tystiolaeth am dorri i mewn i gyfrifiadur yr AS o Gastell Nedd a rhai o brif weision sifil ei adran.

Y tebygrwydd yw y byddai eu cyfrifiaduron yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol iawn yn ymwneud â diogelwch yn y dalaith.

Roedd Peter Hain yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon rhwng 2005 a 2007 ar adeg dyngedfennol yn y broses heddwch.

Y cefndir

Yn ôl y papur, mae Heddlu Llundain yn cynnal ail ymchwiliad ochr yn ochr âr un i hacio ffonau symudol ac maen nhw eisoes wedi arestio un dyn 52 oed.

Dyw Peter Hain ddim wedi ymateb ond roedd llefarydd ar ei ran yn dweud na fedren nhw roi sylw ynglŷn ag ymchwiliad heddlu.

Maer Guardian hefyd yn dyfynnur AS, Tom Watson, sydd wedi arwain yr ymgyrch yn erbyn News International; roedd yn dweud bod yr honiadau newydd yn mynd â’r cyhuddiadau yn erbyn y cwmni papur newydd i lefel newydd.