Julie Morgan
 
Mae gwraig cyn-Brif Weinidog Cymru yn amau iddi gael ei thargedu gan y bobol hacio ffonau symudol, yn ystod y cyfnod pan oedd Rhodri Morgan wrth y llyw yn y Cynulliad.

Yn ôl Julie Morgan, sy’n Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd, mi gysylltodd cwmni ei ffôn symudol â hi rhwng 2005/06.

Yng Ngorffennaf bu Mrs Morgan yn cyfarfod Heddlu Llundain, ac mae wedi datgleu eu body n ymchwilio i hyd at naw galwad i’w ffôn symudol.

Aeth i gwrdd â’r Glas gyda’i gŵr.

“Aethon ni i bencadlys arbenigol yr heddlu a siarad gyda nhw, ac mi roddon nhw fanylion dyddiadau pan y bu galwadau gan News International i fy ffôn.

“Roedden nhw’n dweud bod rhwng chwech a naw galwad i gyd…roeddwn wedi fy syfrdanu ac wedi ypsetio. Fedrwn i ddim credu’r peth.”

Dywedodd Heddlu Llundain nad oedden nhw’n cynnig sylw ar achosion unigol.

 A doedd llefarydd cwmni News International ddim am wneud unrhyw sylw ynghylch honiadau penodol Julie Morgan, ond pwysleisiodd eu bod yn cydweithredu’n llwyr gyda’r heddlu o safbwynt hacio ffonau.