Pacistan
Mae heddlu ym Mhacistan wedi arestio dynes yn ninas Karachi ar amheuaeth o ladd ei gŵr, wedyn ei dorri’n ddarnau, ac yna’i ferwi er mwyn cael gwared ar y dystiolaeth.

Dywedodd Zainab Bibi, 42, wrth yr awdurdodau ei bod wedi lladd ei gŵr am ei fod wedi ceisio ymosod yn rhywiol ar ei merch 17 oed, o briodas flaenorol.

Mae’n debyg ei bod wedi cymysgu tabledi cysgu yn nhe ei gŵr, ac yna’i grogi â chortyn.

Aeth hi a’i nai ati wedyn i dorri ei gorff yn ddarnau a berwi’r cnawd.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod ar draws y drosedd ar ôl i gymdogion gwyno am arogl gwael yn dod o’i chartref. Maen nhw hefyd wedi arestio ei nai.