Prifysgol Caergrawnt
Mae criw o fyfyrwyr o Brifysgol Caergrawnt wedi galw am gefnogaeth Cymru wrth herio cynlluniau Llywodraeth San Steffan i breifateiddio addysg yn Lloegr.
Yn ôl grŵp ymgyrchu Cambridge Defend Education, byddai’r cynigion ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth i godi’r cap ar ffioedd dysgu yn golygu na fydd canran uchel o’r boblogaeth yn gallu fforddio mynd i brifysgol.
Nawr mae’r ymgyrchwyr wedi gofyn i fyfyrwyr o Gymru eu cefnogi nhw wrth wrthwynebu’r cynigion.
Yn ôl Swyn Haf, sy’n fyfyrwraig Almaeneg a Sbaeneg yng Nghaergrawnt ac ynghlwm â’r ymgyrch, maen nhw yn galw ar fyfyrwyr Cymru i ddangos eu “cefnogaeth” i’r achos.
“Mae Cymru wedi dangos esiampl i Loegr,” meddai Swyn Haf wrth Golwg 360.
“Mae’r Cynulliad yn parhau i fuddsoddi mewn pobol ifanc yn hytrach na’u gweld nhw fel modd o wneud arian,” meddai.
Mae’r cynigion i godi’r cap ar ffioedd myfyrwyr a phreifateiddio addysg uwch yn rhan o Bapur Gwyn sydd wedi ei gyflwyno gan Weinidog Addysg Uwch a Gwyddoniaeth San Steffan, David Willets.
Gwrthwynebu’r Gweinidog
Roedd y Gweinidog yng Nghaergrawnt yn cyflwyno darlith ar ‘Y Syniad o Brifysgol’ ddydd Mawrth.
Meddianodd y grŵp ymgyrchu y neuadd a chyflwyno gwrth-ddarlith o flaen y Gweinidog, fel protest yn erbyn y cynigion.
Roedd yr ymgyrchwyr yn gwrthwynebu’r ffaith na wahoddwyd unrhyw siaradwyr ar ran myfyrwyr y brifysgol i’r ddarlith.
Cyflwynwyd llythyr o wrthwynebiad i’r cynigion i David Willets, ac ataliwyd y Gweinidog rhag cymryd y llwyfan.
Mae’r myfyrwyr wedi meddiannu neuadd y ddarlith ers dydd Mawrth, ac maen nhw’n bwriadu aros yno nes 30 Tachwedd, cyn mynd i ymuno â streicwyr ar y llinellau piced.
Yn ôl Swyn Haf mae tua 50 o bobol wedi bod yng nghlwm wrth y brotest hyd yn hyn.
Dywedodd y fyfyrwraig sy’n hanu o Aberystwyth ei bod hi’n flin iawn gyda chynigion Papur Gwyn Llywodraeth San Steffan.
“Mae gen i ddau frawd a dwy chwaer sydd ddim wedi cyrraedd oed addysg uwch eto. Dw i’n ymgyrchu heddiw i sicrhau eu bod nhw’n gallu fforddio dilyn pa bynnag drywydd addysg y maen nhw’n ei ddewis.”
Pryder dros breifateiddio
Er na fydd y Papur Gwyn yn effeithio’n uniongyrchol ar Gymru, mae Swyn Haf yn credu y gallai “prifysgolion preifat yn Lloegr ddenu staff oddi wrth brifysgolion Cymreig sy’n parhau i ddarparu addysg sydd yn agored i bawb, y tlawd a’r cyfoethog”.
Mae nifer o sefydliadau yng Nghymru a Lloegr yn bwriadu codi’r ffi uchaf posib o £9,000 y flwyddyn o fis Medi 2012 ymlaen.
Ond mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud mai dim ond £3,465 y flwyddyn bydd yn rhaid i fyfyrwyr Cymru dalu ym Mhrifysgolion Cymru – ac y bydd Llywodraeth Cymru yn talu’r gwahaniaeth.
Ond gallai cynlluniau newydd addysg uwch Lloegr olygu bod uchafswm o £9,000 yn cael ei godi, ac mai cwmnïau preifat yn gyfrifol am ddarparu addysg uwch mewn prifysgolion.
“Mae hyn eisoes yn digwydd yn yr Unol Daleithiau, ac mae rhai o’r cwmnïau sydd wedi dangos diddordeb mewn system debyg yn Lloegr wedi cael enw drwg iawn yn y gorffennol o gam-werthu graddau, trwy godi pris uchel am raddau ond darparu addysg o safon isel,” meddai.
“Gallwn ni fod yn falch bod Cymru’n parhau i fuddsoddi yn ei hieuenctid ac mae’n ddyletswydd arnom i egluro pa mor bwysig yw hynny, ac y dylai hynny fod yn wir ym mhob man.”