Mae braich merch 12 oed gafodd ei dorri ymaith gan drên cyflymder uchel wedi ei ailgysylltu gan feddygon.
Mae’n debyg fod Rebecca Huitson ar groesfan gyda’i ffrindiau i’r gogledd o Newcastle pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Llun.
Cafodd ei braich ei ddarganfod gerllaw a’i gludo i’r Royal Victoria Infirmary yn Newcastle, lle y bu meddygon yn ymdrechu i ailgysylltu’r fraich.
Yn ôl Michael Schenker, meddyg llawdriniaeth gosmetig, maen nhw bellach wedi ail-gysylltu’r fraich.
Ond, mae yna berygl na fydd hynny’n gweithio ac y bydd angen rhagor o lawdriniaethau ar y claf.
Dywedodd bod meddygon yn gweithio’n galed ar y llawdriniaeth a’r gobeith oedd y byddai’r ferch yn gallu parhau i ddefnyddio’r fraich.
Mae ymchwiliadau heddlu’n parhau ond mae’n debyg mai damwain oedd beth ddigwyddodd.