Mae dau rybudd llifogydd wedi eu cyhoeddi yng Nghymru heddiw, wrth i arfordiroedd y gogledd orllewin baratoi at lanw uchel.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio pobol i fod yn barod ar gyfer llifogydd posib o ar hyd arfordir Gorllewinol Ynys Môn, ac arfordir Pen Llŷn a Bae Ceredigion.
Daw’r rhybudd llifogydd wrth i arfordir Gogledd Orllewin Cymru baratoi ar gyfer llanw uchel iawn heno.
Y disgwyl yw i’r llanw fod ar ei uchaf ym Mhen Llŷn tua 19.30, ac arfordir gorllewinol Ynys Môn erbyn 21.15.
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd wrth Golwg 360 fod y rhybudd wedi ei roi “yn benodol oherwydd y llanw uchel sy’n cael ei ddisgwyl heno.”
Ond dywedodd y llefarydd fod rhagolygon am “dywydd stormus heno” wedi cyfrannu at y rhybudd llifogydd.
Mae’r Asiantaeth wedi dweud eu bod nhw nawr yn cadw golwg ar y sefyllfa ar y môr, a’u bod nhw mewn cysylltiad agos â Swyddfa’r Met, ac wedi bod yn archwilio rhai amddiffynyddion llifogydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr da.
Dywedodd Jeremy Parr o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru eu bod nhw’n “annog pobol sy’n byw ger arfordir Pen Llŷn a gorllewin Ynys Môn i fod yn arbennig o wyliadwrus o’r amgylchiadau stormus a thonnau’r môr heno”.
“Mae ein staff ar hyn o bryd yn monitro’r sefyllfa ac fe fyddwn yn rhoi gwybod i bobol os oes unrhyw berygl o lifogydd gan y llanw yn eu cymunedau.”
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud eu bod yn cadw golwg arbennig ar yr arfordir rhwng Bae Cemlyn ac Ynys Llanddwyn yn Ynys Môn, a’r arfordir rhwng Dinas Dinlle ac Abermaw yn y gorllewin.
Mae’r Asiantaeth yn annog unrhyw un sy’n pryderu i gysylltu â’r llinell gymorth i lifogydd ar 084598811188.