Leanne Wood
Mae Plaid Cymru yn parhau i ddyfalu a fydd yr Aelod Cynulliad, Leanne Wood, yn ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid ai peidio.

Yn ôl llefarydd ar ran y blaid, dyw hi heb benderfynu sefyll eto, ond wedi dweud nad ydi hi am ddisytyru’r posibilrwydd.

Cyhoeddodd y gwleidydd ar raglen am.pm ddoe bod nifer o aelodau y blaid wedi galw arni i sefyll.

Ychwanegodd fod “aelodau ifanc Plaid Cymru yn rhedeg ymgyrchoedd bach ar Facebook, Twitter a YouTube er mwyn ceisio fy mherswadio i sefyll.”

Mae gan y gwleidydd 39 oed o’r Rhondda wreiddiau sosialaidd, a chysylltiad cryf ag ardaloedd diwydiannol de Cymru, sy’n darged i Blaid Cymru.

Ond dywedodd llefarydd ar ran y blaid wrth Golwg 360 nad oedden nhw’n gwybod eto beth fyddai penderfyniad Leanne Wood.

“O’r hyn dw i’n deall, dyw hi ddim wedi dweud ei bod hi’n sefyll, ac yn sicr does dim cyhoeddiad wedi ei wneud ganddi ar y mater,” meddai’r llefarydd.

“Y cyfan ma’ Leanne Wood wedi ei ddweud yw nad yw hi’n diystyru’r posibilrwydd o sefyll.”

Daw sylwadau Leanne Wood ychydig dros fis cyn y bydd yr ymgyrch i olynu Ieuan Wyn Jones yn dechrau o ddifri’.

Bydd unrhyw ymgeiswyr am arlywyddiaeth Plaid Cymru yn gorfod cyflwyno’u henwau i’r blaid yn swyddogol erbyn 26 Ionawr 2012, a bydd y hystyings cyntaf yn cael eu cynnal ym mis Chwefror.

Bydd yr arweinydd newydd yn cael ei dewis erbyn cynhadledd y blaid ym mis Mawrth.

Mae AC Ceredigion, Elin Jones, ac AC Dwyfor-Meirionydd, Dafydd Elis-Thomas eisoes wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu sefyll.