Rosemary Butler
Mae Llywydd y Cynulliad wedi ysgrifennu at gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC gan ddweud y bydd toriadau i gyllideb y gorfforaeth yng Nghymru “yn niweidio democratiaeth”.

Mewn llythyr sydd wedi mynd i ddwylo’r wasg mae Rosemary Butler yn dweud wrth yr Arglwydd Patten ei fod yn destun pryder iddi fod y gorfforaeth yn torri lawr ar raglenni am wleidyddiaeth Cymru ar ôl i’r Cynulliad ennill pwerau deddfu llawn.

Mae yna bryder oherwydd bod rhaglenni gwleidyddol BBC Cymru, gan gynnwys Dragon’s Eye ac AM:PM, yn diflannu.

Ond mewn datganiad roedd BBC Cymru am bwysleisio y bydd rhaglenni tebyg yn cael eu dangos y flwyddyn nesaf, ond eu bod wedi eu cynhyrchu gan y gwmnïau annibynnol.

“Tra bydd Dragon’s Eye a’r rhifyn dydd Mercher o am:pm sydd ar amser allfrig yn gorffen, fe wahoddir y sector annibynnol i gynhyrchu rhaglen flaenllaw newydd gydag agenda Gymreig ar BBC ONE yn 2012.  I fod yn glir, bydd y rhaglen hon yn ymchwilio gwleidyddiaeth a bywyd gyhoeddus yng Nghymru a bydd, wrth gwrs, ar ben ein rhaglen arall wythnosol The Politics Show.

“Bydd BBC Cymru yn parhau gyda rhaglenni gwleidyddol wythnosol ar Radio Cymru a Radio Wales yn ogystal â sylw penodol yn y ddwy iaith ar Democratiaeth Fyw. Hefyd, byddwn yn parhau gydag CF99 – rhaglen yn Gymraeg ar wleidyddiaeth i S4C.  Y mae BBC Cymru hefyd wedi ymrwymo i gadw newyddion dyddiol ar draws ei holl wasanaethau a hynny heb ostyngiad yn y nifer o oriau o raglenni.”

Mae BBC Cymru yn wynebu toriad o 16% ac mae disgwyl y bydd tua 100 o swyddi’n mynd.

Dywedodd Rosemary Butler ei bod hi’n pryderu nad oedd gwleidyddiaeth y gwledydd datganoledig yn cael unrhyw sylw ar brif fwletinau newyddion y BBC.

“Rydw i a fy nghydweithwyr yn pryderu y bydd y cynigion sy’n ymwneud â rhaglenni gwleidyddol yn gwneud y problemau yma’n waeth,” meddai Rosemary Butler.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth y BBC eu bod nhw’n bwriadu ymateb i lythyr Rosemary Butler.