Bydd grŵp sy’n ymgyrchu dros ddyfodol Radio Ceredigion yn cwrdd heno â’r bwriad o lansio’u cais ar gyfer trwydded darlledu i’r orsaf.
Mae Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion wedi cefnogi gwaith yr orsaf ers dros wyth mlynedd bellach, ond yn ddiweddar mae nifer ohonynt wedi bod yn anhapus â’r ddarpariaeth Cymraeg.
Ers mis Ebrill 2010 mae trwydded ddarlledu Radio Ceredigion wedi bod yn eiddo i gwmni Town and Country Broadcasting.
Y cwmni hwnnw sydd hefyd yn cynnal Radio Sir Gâr a Radio Sir Benfro. Mae’r tair gorsaf yn cael eu darlledu o un stiwdio yn Arberth, yn Sir Benfro.
Yn ôl Geraint Davies, sy’n rhan o bwyllgor Cymdeithas Cyfeillion Radio Ceredigion, mae’r dirywiad yn y ddarpariaeth Gymraeg ar yr orsaf ers mis Ebrill y llynedd wedi bod yn siom mawr i nifer o wrandawyr lleol – ac mae’r gymdeithas yn ystyried gwneud cais i OFCOM er mwyn rheoli’r orsaf eu hunain.
“Y bwriad heno yw cael cefnogaeth weddill y Gymdeithas i fwrw ymlaen â’r cais i gael trwydded ddarlledu yng Ngheredigion,” meddai Geraint Davies.
Bydd y drwydded ddarlledu ar gyfer Radio Ceredigion ar gael i wneud cais amdano ym mis Rhagfyr 2012, a heno mae’r ymgyrchwyr yn gobeithio “lansio ein cais yn swyddogol”.
Yn ôl Geraint Davies, maen nhw eisiau “ail-lansio gwasanaeth dwyieithog ar yr orsaf, gan roi blaenoriaeth i’r Gymraeg yn ystod y dydd”.
Mae’r ymgyrchwyr yn dadlau bod y “Gymraeg wedi diflannu i bob pwrpas oddi ar donfeddi Radio Ceredigion” ers Ebrill 2010.
“Nod ein cais ni fyddai adfer statws cyfartal i’r iaith Gymraeg a sicrhau bod y gwasanaeth yma’n cael ei ddarparu a’i ddarlledu o Geredigion ac nid o stiwdio tu hwnt i ffiniau’r sir.”
Mae disgwyl i hyd at 50 o aelodau’r Gymdeithas gyfarfod heno yn Felin-fach, yn ôl Geraint Davies, ac fe fyddan nhw wedyn yn cael y cyfle i roi sêl eu bendith ar y cynllun i wneud cais i OFCOM am drwydded fasnachol Radio Ceredigion.