Kate Roberts
Mae’r Athro Derec Llwyd Morgan yn amau nad oes digon o dystiolaeth yng nghofiant newydd Kate Roberts i ddweud i sicrwydd ei bod hi’n hoyw.
Mewn adolygiad o’r cofiant gan Alan Llwyd yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae’n awgrymu fod yr awdur wedi gwneud môr a mynydd o “un gusan bleserus” â merch arall.
“Ar sail hyn, ac ar sail sylw a wnaeth mewn llythyr at Saunders Lewis ar ôl cyhoeddi Monica, yr honna’i chofiannydd ei bod yn hoyw, a bod y cyfeillgarwch rhwng merched a ddisgrifir yn rhai o’i gweithiau llenyddol yn fwy na chyfeillgarwch,” meddai Derec Llwyd Morgan.
“Wele gwestiwn neu ddau, ac yna sylw neu ddau. Ble’r oedd y tueddiad rhywiol honedig hwn wedi bod yn cuddio tan 1926? I ble’r aeth ef wedyn? A pha mor bell yn rhywiol y rhaid i rywun fynd cyn y gellir yn gyfiawn ei alw’n ŵr neu wraig gyfunrywiol? – yr holl ffordd, ys dywedir? neu ai digon un gusan bleserus?
“Gwir bod yn llyfrau Kate ferched a fwynhâi gymdeithas merched eraill, ond cofier ym mha oes y trigai’r mwyafrif ohonynt ynddi. Oherwydd i’r Rhyfel Mawr ladd cynifer o ddynion ifainc, yr oedd, a siarad yn amrwd, prinder dynion cyfoed â hwy.
“At hynny, gweithiai llawer ohonynt mewn sefydliadau a rannai’r ddau ryw. Yn yr ysgol yn Ystalyfera yr oedd dwy ystafell staff. Yn Aberdâr, mewn ysgol i ferched y dysgai Kate, ac nid oedd dynion o gwbl ar y staff. Mewn amgylchiadau fel hyn yr oedd yn anochel fod merched yn ymwneud yn ddwfn â’i gilydd. Ni sonia’r cofiant yr un sill am y gymdeithaseg bwysig hon.
“Ond y peth rhyfeddaf oll am y ‘dadleniad’ hwn yw bod Alan Llwyd yn mynnu bod Kate Roberts ei hun yn ‘awchu’ amdano. Ble mae’r dystiolaeth? ‘Gwn mai dyna fyddai ei dymuniad,’ meddai ei chofiannydd. Sut?
“A fu mewn cysylltiad â hi yn yr arall fyd? Rhyfyg hunandwyllodrus biau datganiad o’r fath, ac y mae’n diraddio’r awdur a’i lyfr.”
Darllenwch weddill yr adolygiad yng nghylchgrawn Golwg, Tachwedd 24