Mae golygyddion Tu Chwith yn gobeithio parhau i’w gyhoeddi, er bod y Cyngor Llyfrau wedi dileu’r grant blynyddol o £6,000 i’r cylchgrawn llenyddol sydd wedi’i anelu at yr ifanc.
Y rhifyn nesaf ar y thema ‘Gwreiddiau’ fydd yr olaf i’w gyhoeddi gyda’r arian nawdd.
“Rydan ni’n gobeithio cyhoeddi Tu Chwith wedi hynny, os nad fel cylchgrawn, yna ar ffurf electronig,” meddai Elin Angharad, un o’r cyd-olygyddion.
Cafodd Tu Chwith wybod bnawn Iau diwethaf bod y nawdd yn dod i ben, ar drothwy’r cyhoeddiad swyddogol gan y Cyngor Llyfrau ar fore Gwener.
Mae un o sylfaenwyr Tu Chwith, sy’n bodoli ers 1993, wedi dweud bod dileu’r cymorthdal yn gywilyddus, a’i bod yn annheg na chafodd criw’r cylchgrawn fwy o rybudd fod y grant yn y fantol.
Roedd Dr Simon Brooks yn feirniadol o’r ffaith fod y Cyngor Llyfrau wedi rhoi 12 mis i gylchgrawn Barn adfer nifer eu darllenwyr ychydig flynyddoedd yn ôl, ond nad oedd yr un cyfle wedi ei gynnig i Tu Chwith.
Mae’r Cyngor Llyfrau wedi pwysleisio y bydd arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod cylchgronau eraill yn cyhoeddi gwaith awduron ifanc ac i “ymchwilio i ddulliau cyhoeddi aml-blatfform i gyrraedd to o ddarllenwyr newydd”.