David Dimbleby
Mae prif gyfansoddwr a chanwr y Moniars wedi cwyno i’r BBC am rifyn o Question Time gafodd ei ffilmio yn Aberystwyth wythnos yn ôl.

Mae Arfon Wyn yn un o 15 sydd wedi cofnodi cwyn swyddogol gyda’r Gorfforaeth, ac roedd llu o ymatebion negyddol i’r rhaglen ar y we.

Roedd Golygydd Materion Cymreig y BBC hefyd yn gwyntyllu ei anfodlonrwydd ar ei gyfrif twitter personol.

Mae dwy brif elfen i’r cwyno: bod nifer y Cymry yn y gynulleidfa yn brin; a bod y cyflwynydd David Dimbeleby yn mynnu trafod pob pwnc o safbwynt Prydeinig, er bod rhai meysydd wedi eu datganoli i Gymru.

“Roedd y gynulleidfa yn hollol anghynrychioliadol o’r bobol sy’n byw yn yr ardal a’r wlad,” meddai Arfon Wyn yn ei gŵyn swyddogol.

“Dim ond un o’r rhai gafodd ofyn cwestiwn oedd efo unrhyw fath o acen Gymreig. Roedd hyd yn oed y mwyafrif llethol o’r myfyrwyr yno yn dod o Loegr.

“Roedd mwyafrif y gynulleidfa yn beth rydan ni’n eu galw’n ‘White Settlers’ tebyg i’r rhai hynny sy’n dal i’w gweld mewn gwledydd fel Kenya hyd heddiw.

“Rydan ni’r Cymry yn cydymdeimlo’n arw gyda’n cefndryd Affricanaidd o ran pobol yn symud i’n ardaloedd ac yn CYMRYD DROSODD!!”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 24 Tachwedd