Mae niwl trwchus wedi effeithio nifer o wasanaethau i mewn ac allan o feysydd awyr yn y DU heddiw.

Bu’n rhaid i Heathrow ganslo nifer o deithiau bore ma, ond dywedodd llefarydd ar ran y maes awyr  bod y sefyllfa wedi gwella erbyn hyn.

Cafodd 40 o deithiau i mewn, a 24 allan o Heathrow eu canslo heddiw.

Mae’r niwl wedi effeithio gwasanaethau i Fanceinion, Glasgow, Amsterdam, Brwsel, Stockholm, Cologne a Nice.

Mae’n dilyn problemau yn dilyn niwl trwchus ddoe pan fu’n rhaid i Heathrow ganslo 81 o deithiau o’r maes awyr.

Fe fu na oedi hefyd ym meysydd awyr dinas Llundain a Leeds Bradford.

Mae Heathrow yn cynghori teithwyr i gysylltu gyda’u cwmniau teithio.