Y Prifardd Ceri Wyn Jones
Y Prifardd Ceri Wyn Jones fydd yn olynu Gerallt Lloyd Owen yn Feuryn y Talwrn, cafodd ei gyhoeddi heddiw.
Mae Ceri Wyn Jones wedi ennill Cadair a Choron Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Daw hyn wedi i Gerallt Lloyd Owen roi’r gorau i fod yn Feuryn ar y rhaglen farddoniaeth boblogaidd, ar ôl 32 mlynedd wrth y llyw.
Mewn datganiad fe ddywedodd Gerallt Lloyd Owen “efallai ei bod hi yn bryd rhoi cyfle i rywun arall, wedi’r cyfan dwi wedi bod yn gwneud y Talwrn am hanner fy oes.”
Ceri Wyn Jones enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 1997 . Ef oedd Bardd Plant Cymru yn 2003-2004. Yn 2009, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol y Bala.
Fe fydd recordiad cyntaf y bardd yn digwydd yng Ngwesty’r Emlyn, Tanygroes, meddai’r BBC. Fydd y rhaglen honno yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru “ychydig o ddiwrnodau’n ddiweddarach.”
Fe ddywedodd Ceri Wyn Jones fod cychwyn y swydd yn “gynhyrfus”.
Dywedodd wrth gyflwynwyr y Post Cyntaf ei fod yn “gobeithio yn fawr iawn” y gallai “barhau i ennill clustiau a chalonnau’r gwrandawyr ynghyd a pharch a thrugaredd y beirdd.”
“Dw i eisiau sicrhau bod y Talwrn yn parhau’n adloniant ac yn ddiwylliant lle mae modd i gyflwyno barddoniaeth sydd yn ddifyr ac yn ddyrchafol ar yr un gwynt,” meddai.
Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, sef Dauwynebog, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2008, ac fe’i disgrifiwyd gan y beirniaid fel “un o feirdd gorau ei genhedlaeth”.
Bu’n Fardd Plant Cymru ac yn feirniad cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol 2006 a 2009. Mae’n Olygydd Llyfrau gyda Gwasg Gomer ac yn byw yn Aberteifi gyda’i wraig a thri o feibion.
“Rydw i yn hynod falch o allu cyhoeddi mai Ceri Wyn Jones yw Meuryn newydd Y Talwrn, sy’n rhaglen mor bwysig yn amserlen Radio Cymru,” meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru.
“Mae Ceri yn frwd, yn ffraeth ac yn feistr yn ei faes ac rydyn ni yn hyderus y bydd yn ddewis poblogaidd ymysg dilynwyr y gyfres. Mae’n uchel iawn ei barch o fewn byd y beirdd eu hunain hefyd ac mae’n siŵr o ddod â’i syniadau a’i arddull ei hun i’r gyfres.”