Mae’r Llywodraeth wedi gwario bron i £750,000 ar docynnau ar gyfer Gemau Llundain, cafodd ei gyhoeddi heddiw.

Mae’r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi cael 8,815 o docynnau sy’n  cynnwys 213 ar gyfer y seremoni agoriadol. Mae’r tocynnau yma yn unig wedi costio £194,525.

Mae’r tocynnau yn cynnwys 41 o’r rhai sydd wedi’u prisio uchaf ar gyfer y seremoni agoriadol – £2,012.12. Maen nhw hefyd wedi talu £71,490 am 143 o docynnau ar gyfer y seremoni cloi, yn ôl ffigyrau a gafwyd gan Sky News o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth.

Mae miloedd o aelodau o’r cyhoedd wedi eu cynddeiriogi ar ôl iddyn nhw fethu â chael tocynnau i’r seremonïau a’r digwyddiadau seiclo ac athletau.

O’r 1.9 miliwn oedd wedi gwneud cais am docynnau, dim ond 700,000 – 36% – sydd wedi bod yn llwyddiannus.

Roedd yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi gwneud cais am docynnau ac fe fydd y tocynnau yn cael eu rhannu ar draws adrannau’r Llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran y bydd y tocynnau yn cael eu defnyddio i wahodd gwleidyddion, arweinwyr busnes a gwesteion sydd â chysylltiad agos â’r Gemau.