Mae 54% o Albanwyr o blaid annibyniaeth i’r Alban, yn pôl newydd gan Panelbase ar ran y felin drafod Business for Scotland.

Cafodd 1,070 o Albanwyr dros 16 oed eu holi fel rhan o’r arolwg.

Roedd 7% yn ansicr, ac fe gawson nhw eu tynnu o’r canlyniadau, gan adael 46% yn erbyn annibyniaeth.

Ond o’u cynnwys, mae’r rhai sydd o blaid yn gostwng i 50%, o’u cymharu â 43% yn erbyn.

Daw’r arolwg bythefnos ar ôl i Blaid Lafur yr Alban ddatgan eu gwrthwynebiad i ail refferendwm annibyniaeth.

Dim ond 37% o gefnogwyr Llafur yr Alban sydd o blaid annibyniaeth, yn ôl y pôl – ond mae hynny 2% yn uwch na phôl arall gan Panelbase fis diwethaf.

Mae 13% o’r rhai a bleidleisiodd dros Lafur fis Rhagfyr yn ansicr ynghylch anibyniaeth ac mae hynny’n golygu bod hanner cefnogwyr y blaid yn cefnogi aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ymateb

Yn ôl Business for Scotland, mae’r pôl yn awgrymu bod mwy o bobol bellach yn symud oddi wrth Lafur tuag at fudiad Yes Scotland a’r ymgyrch dros annibyniaeth.

Mae’r SNP a’r Blaid Werdd wedi croesawu canlyniadau’r pôl.

“Mae pôl ar ôl pôl yn rhoi cefnogaeth i annibyniaeth dros 50%,” meddai Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP.

“Dydy hyn ddim bellach yn duedd – cefnogaeth fwyafrifol ar gyfer annibyniaeth yw’r safbwynt sydd wedi’i sefydlu erbyn hyn.

“Mae holl ymdrechion Llywodraeth yr Alban, yn briodol iawn, wedi canolbwyntio ar frwydro’r argyfwng Covid presennol ond, lle mae Nicola Sturgeon wedi dangos arweinyddiaeth ragorol, mae Llywodraeth San Steffan wedi mynd o wall i wall a dydy etholwyr yr Alban ddim wedi methu’r agendor amlwg mewn safon.

“Does dim syndod fod y rhan fwyaf o Albanwyr eisiau cael gwared ar Boris Johnson a’i gabinet o bobol analluog.

“Ac o ran Richard Leonard, mae ategu ei wrthwynebiad eildro i IndyRef2 yn ei adael e ar ei hôl hi o ran 50% o gefnogwyr ei blaid.”