Mae tua 2,500 o weithwyr ar fin colli eu swyddi gyda’r masnachwyr adeiladwyr, Travis Perkins.

Dywedodd y cwmni, sydd â 67 o ganghennau yng Nghymru, ac sydd hefyd yn berchen Toolstation a Wickes, eu bod wedi gwneud y penderfyniad gan eu bod yn disgwyl i’r dirwasgiad daro’r fasnach am o leiaf dwy flynedd.

Mae’r penaethiaid yn bwriadu cau 165 o siopau – gan ganolbwyntio’n bennaf ar safleoedd Travis Perkins sy’n llai o ran maint.

“Er ein bod wedi gweld y tueddiadau’n gwella’n ddiweddar, dydyn ni ddim yn disgwyl i ni ddychwelyd at amodau masnachu cyn-Covid am beth amser” meddai’r Prif Weithredwr Nick Roberts.

“O ganlyniad rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd iawn i ddechrau ymgynghori ar gau canghennau penodol a lleihau ein gweithlu er mwyn sicrhau y gallwn ddiogelu’r grŵp yn ei gyfanrwydd.

“Nid yw hyn yn adlewyrchiad o gwbl ar y gweithwyr hynny a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i’w cefnogi yn ystod y broses hon.”

Wynebu dirwasgiad

Er bod lefelau masnachu wedi gwella’n sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ôl Travis Perkins, mae’n amlwg fod Prydain yn wynebu dirwasgiad a bydd hyn, medden nhw yn cael effaith tebyg ar y galw am ddeunyddiau adeiladu yn ystod 2020 a 2021.

Mae’r diswyddiadau yn ffurfio tua 9% o gyfanswm y gweithlu, ychwanegodd y cwmni, gyda chau’r siopau yn golygu lleihad o 8% yn ei bortffolio

“Y canghennau fydd yn cau fydd y busnesau masnachol,” meddai’r cwmni.

“Yn enwedig masnachwyr cyffredinol Travis Perkins, gan ganolbwyntio ar ganghennau bach lle mae hi naill ai’n anodd gweithredu arferion ymbellhau diogel, neu lle bydd proffidioldeb ymylol yn cael ei daro mewn amgylchedd llai o faint.”

Ychwanegodd Travis Perkins fod mwy o ganghennau wedi bod yn agor dros y chwe wythnos diwethaf – barnwyd bod siopau DIY yn “hanfodol” a’u bod yn cael aros ar agor yn ystod y cloi.

Roedd gwerthiant i lawr 40% ym mis Mai o gymharu â’r un mis flwyddyn yn ôl, ond bu gwerthiant cryf yn Wickes a Toolstation wrth i bobl oedd yn aros adref droi eu dwylo at DIY.

Ar ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd gan y cwmni flaendaliadau o £363 miliwn ynghyd â gorddrafft heb ei dynnu o £400 miliwn gyda’r banciau.