Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, wedi dweud y byddai wedi gwneud “penderfyniadau gwahanol” yn nyddiau cynnar pandemig y coronafeirws pe bai ganddo’r wybodaeth sydd ganddo nawr.

Fodd bynnag, mae’n gwadu fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn “ddi-hid” wrth ddelio â’r pandemig.

Gwnaeth y datganiad hwn wrth siarad ar raglen BBC Politics Wales, lle cafodd ei holi ynglŷn â rhyddhau 1,300 o gleifion o ysbytai i gartrefi gofal yn ystod mis Mawrth ag Ebrill.

Wnaeth pobol oedd yn cael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal yng Nghymru ddim dechrau cael eu profi am y coronafeirws tan fis Ebrill.

Mae hyn yn golygu y gallai rhai o’r 1,300 o gleifion fod wedi heintio preswylwyr eraill mewn cartrefi gofal.

“Dylai wastad wedi bod yn achos o bobol oedd â symptomau yn cael eu profi a dyna oedd ein dealltwriaeth o’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth pan gafodd y penderfyniadau eu gwneud,” meddai Vaughan Gething.

“Wrth gwrs, fe wnaethom ddatblygu dealltwriaeth bellach, felly pe byddai gen i’r wybodaeth sydd gennyf heddiw, mae’n debyg y byddwn i wedi gwneud penderfyniadau gwahanol ar nifer o achosion yn ystod pandemig y coronaferiws.

“Ond nid ydym wedi gweithredu’n ddi-hid.”

Yn y cyfamser, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y pnawn yma fod pedwar arall wedi marw ar ôl profi’n bositif i Covid-19, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau i 1,448. Mae cyfanswm yr achosion yng Nghymru wedi codi 62 i 14,804.