Cafodd 14 o blismyn eu hanafu yn ystod protestiadau yn Llundain ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 6) yn dilyn marwolaeth George Floyd, dyn croenddu yn yr Unol Daleithiau, yn gynharach yn yr wythnos.
Mae plismones gwympodd oddi ar ei cheffyl mewn cyflwr sefydlog er iddi gael yr hyn mae Ffederasiwn yr Heddlu’n eu disgrifio fel “anafiadau cas”.
Dywedodd llefarydd wrth y BBC fod ei gydweithwyr yn “arwyr” ac iddyn nhw gael eu “sarhau” gan y protestwyr.
“Doedd gen i ddim byd ond balchder yn yr hyn welais i,” meddai.
Ymateb Comisiynydd Heddlu Lludain
“Dw i wedi fy nhristháu a’m digalonni fod lleiafrif o brotestwyr wedi bod yn dreisgar tuag at swyddogion yng nghanol Llundain neithiwr,” meddai Cressida Dick, Comisiynydd Heddlu Llundain.
“Arweiniodd hyn at 14 o swyddogion yn cael eu hanafu, yn ogystal â’r 13 a gafodd eu hanafu mewn protestiadau’n gynharach yr wythnos hon.
“Rydym wedi arestio nifer o bobol a bydd cyfiawnder yn dilyn.
“Mae nifer yr ymosodiadau’n syfrdanol ac yn gwbl annerbyniol.
“Dw i’n gwybod y bydd nifer oedd yn ceisio cael llwyfan i’w lleisio wedi’u siomi cymaint â fi yn sgil y golygfeydd hynny.
“Does dim lle i drais yn ein dinas ni.
“Fe ddangosodd swyddogion gryn amynedd a phroffesiynoldeb yn ystod diwrnod hir ac anodd, a dw i’n diolch iddyn nhw am hynny.
“Byddwn i’n annog protestwyr i ddod o hyd i ffordd arall o gael llwyfan i’ch llais nad yw’n golygu dod allan ar strydoedd Llundain, gan achosi risg i chi eich hunain, eich teuluoedd a swyddogion wrth i ni barhau i wynebu’r feirws marwol hwn.”