Bydd disgyblion yn Lloegr yn dechrau dychwelyd i’r ysgol heddiw, (Mehefin 1), a bydd teuluoedd yn cael cwrdd unwaith yn rhagor wrth i newidiadau mawr gael eu gwneud yno i’r cyfyngiadau cloi.
Ond mae gwyddonwyr wedi lleisio pryder ynglŷn â llacio’r cyfyngiadau gan ddweud ei bod yn rhy gynnar.
Mae’r penderfyniad i lacio mesurau’n ehangach yn Lloegr yn golygu y bydd grwpiau o hyd at chwech o bobl yn cael cyfarfod mewn mannau cyhoeddus neu erddi preifat a marchnadoedd awyr agored, ac fe fydd gwerthwyr ceir yn cael ailagor.
Ond mae arweinwyr y Llywodraeth wedi pwysleisio bod yn rhaid i fesurau ymbellhau cymdeithasol aros yn eu lle, yn enwedig aros dau fetr ar wahân i rywun y tu allan i’ch cartref.
Daw hyn wrth i nifer o wyddonwyr feirniadu’r penderfyniad gan awgrymu ei bod yn rhy gynnar i godi’r cyfyngiadau ac y gallai achosi i heintiau coronafeirws gynyddu’n gyflym eto.
Mae Gweinidogion yn mynnu bod yr amser yn iawn i ysgafnhau’r clo gan fod y Llywodraeth wedi cwrdd â’i phum prawf i wneud hynny ac mae cyfradd yr haint, neu’r gwerth R, wedi bod yn gyson is nag un.
Tawelu ofnau
Bydd plant ysgol gynradd yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 6 yn dychwelyd i’r dosbarth yn Lloegr, wrth i’r Llywodraeth ac undebau addysg barhau i ddadlau a yw’n ddiogel gwneud hynny.
Mae rhieni hefyd yn gyndyn i anfon eu plant yn ôl, yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Addysg.
Yn ôl eu harolwg o fwy na 1,200 o arweinwyr ysgolion, canfuwyd bod penaethiaid yn disgwyl i 46% o deuluoedd gadw disgyblion gartref.
Mae canfyddiadau arolwg asiantaeth newyddion PA o awdurdodau lleol a gafwyd yn ddiweddar yn dangos fod mwy nag 20 o gynghorau ledled Lloegr – yn y Gogledd yn bennaf – hefyd yn cynghori ysgolion i beidio â bod yn agored i fwy o ddisgyblion yr wythnos hon.
Mae rhai o’r bobl a holwyd wedi dweud na fydd system brofi ac olrhain y Gwasanaeth Iechyd yn “ddigon cadarn” i dawelu ofnau ynghylch y posibilrwydd o ledaenu’r firws oherwydd anhawster cynnal ymbellhau cymdeithasol.
Yn y cyfamser, mae’r Comisiynydd Plant Anne Longfield wedi galw ar y Llywodraeth i sefydlu dosbarthiadau haf ym mis Gorffennaf a mis Awst i helpu plant i ddal i fyny ar y gwaith yr oedden nhw yn ei golli wrth i’r cyfyngiadau ddod i rym gyda rhai yn wynebu hyd at chwe mis o’r ysgol yn dibynnu pryd y gallan nhw ddychwelyd.
Wrth ysgrifennu yn y Daily Telegraph, dywedodd y gallai ysgolion haf helpu’r “mwyaf difreintiedig” a “darparu gweithgareddau o bob math, prydau bwyd ac efallai rhywfaint o ddysgu hefyd”.
Risgiau
Yn dilyn y tywydd cynnes dros y penwythnos, gwelwyd pobl yn heidio i draethau a pharciau o amgylch Prydain, sydd wedi arwain at aelodau’r Grŵp Cynghori Gwyddonol dros Argyfyngau (Sage) rybuddio bod Gweinidogion yn cymryd risgiau.
Dywedodd Jeanelle De Gruchy, Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, nad oedd pobl yn parhau i ymbellhau’n gymdeithasol fel ag yr oedden nhw, gan ychwanegu fod y sefydliad yn pryderu fod y Llywodraeth yn camfarnu cydbwysedd y risg rhwng mwy o gymysgu cymdeithasol a’r risg y gallai’r firws gael ei atgyfodi, a’i fod yn llacio gormod o gyfyngiadau yn rhy gyflym.
Ond dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr, Dr Jenny Harries y byddai’r cyhoedd yn ddiogel pe byddent yn defnyddio synnwyr cyffredin.
Roedd yr Ysgrifennydd Tai, Robert Jenrick, hefyd yn mynnu bod llacio’r cyfyngiadau yn briodol.
“Yr hyn yr ydym yn ei ddweud wrth y bobl sydd wedi bod yn ynysu am y 10 wythnos diwethaf yw ein bod yn credu bod y gyfradd heintio yn ddigon isel yn awr i’ch galluogi i wneud rhai pethau eithaf cymedrol, fel mynd allan am dro gydag aelodau o’ch aelwyd, neu, os ydych wedi bod yn byw ar eich pen eich hun, cwrdd â rhywun o aelwyd arall.”