Yn dilyn marwolaeth George Floyd yn Minneapolis yn yr Unol Daleithiau, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi’r frwydr yn erbyn hiliaeth.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi eu bwriad i ymuno â’r rhwydwaith byd-eang, Black Lives Matter.
Dywedodd Leanne Wood sydd yn llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol ar ran Plaid Cymru a’i chyd-Aelod o’r Senedd Dr Dai Lloyd bod y blaid yn benderfynol o sicrhau cymdeithas deg a chyfiawn a’u bod yn sefyll yn erbyn hiliaeth.
‘Cyfartaledd a chymdeithas gyfiawn’
“Mae Plaid Cymru yn ymuno gydag Urdd Frawdol yr Heddlu yn condemnio lladd creulon George Floyd yn Minneapolis,” meddai Plaid Cymru.
“Cytunwn gyda’r Urdd bod y digwyddiad hwn yn lleihau ymddiriedaeth a pharch i weithredu’r gyfraith yn yr Unol Daleithiau.
“Safwn gyda theulu George Floyd, sydd wedi dioddef poen a dioddefaint enbyd, rhywbeth na ddylai unrhyw deulu ei wynebu – yng Nghymru, Minneapolis nac unman arall.
“Mae’r byd yn gwylio ac yn unol yn y gred mai gweithred agored o hiliaeth sefydliadol oedd hon ac, yn anghredadwy, un sydd wedi’i chyfiawnhau gan rai swyddogion etholedig.
“Diolchwn i’r dynion a merched dewr yn yr Heddlu sy’n sefyll yn gadarn yn erbyn yr anghyfiawnder hwn.
“Mae Plaid Cymru yn benderfynol yn ei chefnogaeth i gyfartaledd a chymdeithas gyfiawn a theg, ac yn sefyll gyda phob Americanwr sy’n ymladd i oresgyn hiliaeth gyfundrefnol.
“Bydd Plaid Cymru’n arwain y frwydr hon yng Nghymru a chyhoeddwn y bydd yn ymuno â’r rhwydwaith byd-eang, Black Lives Matter.
“Cydymdeimlwn yn ddidwyll gyda’r teulu Floyd a phobl Minneapolis.”