Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn galw am newid sylfaenol mewn polisi trafnidiaeth er mwyn osgoi mynd yn ôl at y lefelau arferol o lygredd aer ar ôl i’r cyfyngiadau symud ddod i ben.
Mae naw o fudiadau gan gynnwys Greenpeace a Cycling UK wedi ysgrifennu at y Canghellor, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth a’r Ysgrifennydd Amgylchedd yn ogystal ag at arweinwyr awdurdodau lleol.
Maen nhw’n galw am balmentydd lletach, llwybrau beicio diogel, cyfyngu ar gerbydau mewn strydoedd siopa, rhwydweithiau o gymdogaethau traffig isel a blaenoriaeth i gerddwyr a beicwyr ar briffyrdd.
“Byddai’n gwbl abswrd, pe bydden ni, ar ôl yr holl ymdrechion a’r aberth a wnaed i achub miloedd o fywydau o Covid-19, yn gadael i filoedd yn rhagor o fywydau gael eu torri’n fyr gan effeithiau dinistriol llygredd gwenwynig,” meddai’r mudiadau.
“Mae llawer o bethau y bydd pobl yn falch o gefnu arnyn nhw ar ôl i’r cyfyngiadau ddod i ben, ond dyw aer glanach ddim yn un ohonyn nhw,” meddai pennaeth gwleidyddiaeth Greenpeace UK, Rebecca Newsom.
“Eto, mae risg giwironeddol y bydd tagfeydd a llygredd gwenwynig yn ôl ar ein strydoedd unwaith y bydd y cyfyngiadau’n cael eu colli.”
Mae disgwyl i lywodraeth Prydain gyhoeddi mesurau heddiw i’w gwneud hi’n haws i bobl deithio ar eu beic i’r gwaith, a all gynnwys arian i ddatblygu rhagor o lonydd beiciau.