Mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, yn ei sesiwn friffio gyntaf ers gwella o’r coronafeirws, wedi datgan yn swyddogol fod y Deyrnas Unedig wedi pasio’r uchafbwynt o ran heintiadau coronafeirws.

“Nid yw ein Gwasanaeth Iechyd wedi cael ei foddi ar unrhyw adeg, ni aeth yr un claf heb beiriant anadlu, ni chafodd yr un claf ei amddifadu o ofal dwys,” meddai.

“Gallaf gadarnhau heddiw ein bod, am y tro cyntaf, wedi pasio uchafbwynt y clefyd hwn ac ar y llethr tuag i lawr.”

Ychwanegodd: “Rydym wedi dod drwy anterth [yr haint].

“Neu, yn hytrach, rydym wedi dod o dan yr hyn a allai fod wedi bod yn uchafbwynt mawr. Fel pe baem wedi bod yn mynd trwy ryw dwnnel alpaidd enfawr.”

Dywedodd Mr Johnson y byddai’n nodi sut i roi sbardun i’r economi yr wythnos nesaf.

“Tan y daw’r diwrnod [pan fydd brechiadau yn barod] – ac ni allwn ddweud yn union pryd y bydd hynny’n digwydd – rhaid i ni guro’r clefyd hwn drwy fod yn fwyfwy penderfynol a dyfeisgar,” meddai.

“Byddaf yn cyflwyno cynllun cynhwysfawr yr wythnos nesaf i egluro sut y gallwn sicrhau bod ein heconomi yn symud, ein plant yn mynd yn ôl i’r ysgol a gofal, sut y gallwn deithio i’r gwaith, a gwneud bywyd yn y gweithle yn fwy diogel.

“Yn gryno, sut y gallwn barhau i atal y clefyd ac ailgychwyn yr economi ar yr un pryd.”

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n gosod “map ffordd” i ysgafnhau’r cyfyngiadau: “Mae’r hyn rydych yn mynd i’w gael yr wythnos nesaf mewn gwirionedd yn ‘fap ffordd’, yn ddewis o opsiynau – bydd dyddiadau ac amseroedd pob cam unigol yn dibynnu i raddau helaeth ar ble rydym yn yr epidemig, beth mae’r data yn ei ddweud.”

Dywedodd Syr Patrick Vallance, Prif Gynghorydd Meddygol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, fod gostyngiad wedi bod yn nifer yr achosion, yn ogystal â gostyngiad yn nifer y marwolaethau o Covid-19.

Dywedodd: “Mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng, ac mae hynny, yn ei dro, yn llai o bobl yn yr ysbyty, llai o bobl mewn gofal dwys, a byddwn yn dechrau gweld nifer y marwolaethau’n gostwng.”

Gan gyfeirio at yr amodau sydd eu hangen i ysgafnhau’r cyfyngiadau, dywedodd Mr Johnson: “Mae’n rhaid i ni fod yn sicr y gallwn barhau i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd a’i allu i ymdopi.

“Mae’n rhaid i ni weld gostyngiad parhaus yn nifer y marwolaethau.

“Mae’n hanfodol nad ydym yn colli rheolaeth nawr ac yn rhedeg yn syth i mewn i ail fynydd, un mwy fyth.

Awgrymodd Mr Johnson, hefyd, y bydd y defnydd o orchuddion wyneb yn cael ei argymell fel rhan o’r mesurau i ysgafnhau’r clo:

“Yr hyn rwy’n meddwl y mae SAGE [y ‘Scientific Advisory Group for Emergencies’] yn ei ddweud, a’r hyn rwy’n sicr yn cytuno ag ef, yw, fel rhan o ddod allan o’r cloi i lawr, rwy’n credu y bydd gorchuddion wyneb yn ddefnyddiol am resymau epidemiolegol ond hefyd er mwyn rhoi hyder i bobl y gallant fynd yn ôl i’r gwaith.

“Ond byddwch yn clywed mwy am hynny wythnos nesa’.”