Mae 299 o ddirwyon wedi cael ei rhoi i bobl yng Nghymru am dorri’r rheolau lockdown yn y cyfnod rhwng Mawrth 27 ag Ebrill 27, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae’r ffigwr ar gyfer ‘Cymru a Lloegr’ dros 9,000.
Roedd 397 o’r 9,000 yn bobl yn derbyn dirwy am yr ail waith, gydag un person yn derbyn dirwy chwech o weithiau.
Mae gan yr heddlu bwerau i gosbi pobl gyda dirwy o £60, sy’n gostwng i £30 os yw’n cael ei dalu o fewn pythefnos.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau Cymru gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart, ar Fawrth 22, galwodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts am fwy o bwerau i’r heddlu
“Mae’r ddirwy ar hyn o bryd yn £60 gan ostwng i £30. Allith o addo i mi y bydd gan yr heddlu bwerau digonol yn ystod gŵyl y banc mis Mai i roi cosbau ystyrlon er mwyn rhwystro pobol rhag gwneud y siwrnai diangen yma?” gofynnodd.
“Rwy’n derbyn eich pwynt, ond bydda i’n cael fy nhywys gan yr heddlu ynghylch yr angen am bwerau ychwanegol, ac os ydyn nhw’n gwneud achos da, yna bydda i’n mynd â’r mater at yr Ysgrifennydd Cartref,” atebodd Mr Hart.
Mae’r ffigyrau’r dirwyon sydd wedi cael eu rhoi yng Nghymru fel a ganlyn:
Dyfed-Powys: 64
Gwent: 63
De Cymru: 102
Gogledd Cymru: 70
Cyfanswm: 299