Mae’r nifer o bobl sy’n credu na wnaeth y Llywodraeth ymateb yn ddigon cyflym wrth ddelio â’r pandemig coronafeirws pan oedd yn tyfu, yn ôl arolwg newydd Ipsos Mori.

Dywed dau draean o oedolion bod gweinidogion wedi cyflwyno mesurau i ddelio â’r argyfwng yn rhy hwyr, sy’n uwch na’r 57% wythnos diwethaf.

Yn ôl yr arolwg mae pobl yn poeni llai am y risg personol mae’r feirws yn peri iddyn nhw, gyda’r ganran yn gostwng naw pwynt i 69% dros y mis diwethaf.

Mae’r nifer o bobl sy’n dweud eu bod yn “hynod ofidus” am y wlad wedi gostwng i 49% o 63% pan ddechreuodd y lockdown fis Mawrth

Fodd bynnag, mae hyder yng ngallu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddelio â’r argyfwng wedi cynyddu.

Ers canol mis Mawrth mae’r gred yng ngallu’r Gwasanaeth Iechyd i ymdopi â’r pandemig wedi codi o 62% i 82%.

Mae canran y bobl sy’n “hynod hyderus” yng ngallu’r Gwasanaeth Iechyd i ddelio â’r coronafeirws wedi codi o 15% i 32%