Dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru ei fod yn disgwyl i’r achosion coronafeirws gyrraedd y brig tua’r un pryd ym mhob rhan o Gymru.
Wrth siarad cynhadledd i’r wasg bnawn heddiw, pwysleisiodd Frank Atherton fod angen ffyrdd llawer gwell o olrhain symudiad y feirws, gan rybuddio yn erbyn codi cyfyngiadau yn rhy gyflym.
“Os godwn ein mesurau yn rhy gyflym yn y Deyrnas Unedig mi fyddwn yn profi ail don, a thon llawer mwy o bosib, yn yr hydref – dyna mae modelau’n ei awgrymu,” meddai.
“Byddai hynny’n newyddion drwg iawn oherwydd dyna’r cyfnod – wrth gwrs – pan mae feirws y ffliw yn dechrau cylchredeg. [Byddai’n newyddion drwg] yn enwedig os gyrhaeddwn y gaeaf.
“A bod yn onest, dydyn ni ddim yn gwybod a fydd ail neu drydydd brig yn yr achosion. Ond mae’n rhaid i ni gymryd yn ganiataol y bydd yr haint yn dychwelyd.”
Brig gwahanol yn y gogledd ‘yn llai tebygol’
Dywedodd ei fod yn “llai tebygol” bellach y bydd achosion coronafeirws yn cyrraedd eu hanterth ar wahanol adegau yn y gogledd a’r de.
Roedd dyfalu, yn wreiddiol, y byddai’r argyfwng yn dwysáu ar adegau gwahanol mewn rhannau gwahanol o Gymru – gyda’r gogledd ar ei hôl hi rhywfaint.
Ond gan fod pobman yng Nghymru wedi cyflwyno mesurau ynysu ar yr un pryd, mae lle i gredu nad dyna fydd y sefyllfa, yn ôl y swyddog.
‘Symud o gwmpas’
“Wrth i’r feirws symud o gwmpas Cymru byddai’n cyrraedd ei hanterth yn hwyrach yng ngogledd Cymru – Dyna oedd y dybiaeth wreiddiol,” meddai.
“Ond a dweud y gwir, wnaeth yr un mesurau ynysu gael eu cyflwyno i bawb ar Fawrth 23, felly mae’r brig yn newid ymhobman ar yr un pryd.
“Felly, er nad yw’n amhosib, mae’n ymddangos yn llai tebygol, i mi, y bydd y feirws yn cyrraedd ei anterth ar adegau gwahanol yn y gogledd a’r de.”
Mae rhai wedi dadlau bod y feirws yn symud o’r de i’r gogledd, ac o’r dwyrain i’r gorllewin, ond “mae’r patrwm yna’n llai amlwg yn awr,” yn ôl Frank Atherton.