Mae oedi wrth gludo 84 tunnell o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd o Dwrci i wledydd Prydain.

Roedd disgwyl i’r nwyddau gyrraedd heddiw (dydd Sul, Ebrill 19).

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pam fod oedi, ond mae Llywodraeth Prydain yn dweud eu bod nhw’n ceisio datrys y sefyllfa “cyn gynted â phosib”.

Roedd y llywodraeth yn dweud ddoe bod y nwyddau’n ddatblygiad “arwyddocaol iawn” yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

Mae’r llywodraeth dan y lach ers tro am ddiffyg cyfarpar i weithwyr rheng flaen sy’n trin cleifion â’r coronafeirws.

Ac mae penaethiaid iechyd yn dweud erbyn hyn mai “ychydig ddiwrnodau” yn unig fydd y nwyddau newydd yn para, er y byddai hynny’n “atal argyfwng llwyr” dros y penwythnos.