Mae ffigurau’n dangos bod mwy o bobol yn dysgu Cymraeg yn ystod gwarchae’r coronafeirws.
Pan ddaeth gwarchae’r coronafeirws i rym, aeth y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ati i sicrhau bod modd i ddysgwyr barhau â’i gwersi ar y we, ond mae’n ymddangos bod hynny hefyd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobol sy’n dysgu’r iaith ar hyn o bryd.
Mae’r Ganolfan wedi bod yn cynnig gwersi dyddiol am 3 o’r gloch trwy Facebook Live, ac mae’r 12 o wersi sydd wedi’u cynnal hyd yn hyn wedi cael eu gwylio mwy na 36,000 o weithiau, gyda mwy na 1,000 o bobol yn cymryd rhan bob dydd.
Daw’r ffigurau ar drothwy cyfres newydd, Iaith ar Daith, sy’n dechrau ar S4C heno (nos Sul Ebrill 19) am 8 o’r gloch, ac sy’n serennu Ruth Jones, Carol Vorderman, Colin Jackson, Scott Quinnell ac Adrian Chiles wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu Cymraeg.
Bydd cyrsiau newydd y Ganolfan yn dechrau er mwyn cyd-daro â’r gyfres newydd, gyda’r cyfle cyntaf i gofrestru yfory (dydd Llun, Ebrill 20).
Neilltuo amser
“Mae hwn yn gyfnod pryderus ac anodd iawn i bawb, ond un o’r pethau positif yw fod gan bobol amser i wneud pethau maen nhw wedi bwriadu eu gwneud ers blynyddoedd, ac mae’n amlwg fod dod yn un o’n cymuned o siaradwyr Cymraeg yn un ohonyn nhw,” meddai’r Farwnes Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg.
“Pan gafodd y ffyrdd mwy traddodiadol o ddysgu Cymraeg eu hatal gan y gwarchae, fe wnes i ofyn i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i feddwl am ffyrdd newydd o helpu pobol i ddysgu a dw i’n diolch iddyn nhw am ymateb mor wych ac mor gyflym.
“Efallai ein bod ni’n gorfod bod gartref, ond dydy hynny ddim yn meddwl bod rhaid i ni fod ar ein pennau ein hunain.
“Mae ymuno â dosbarth Cymraeg ar-lein a dysgu gyda’n gilydd gyda ffrindiau newydd yn golygu y gallwn ni barhau i gymdeithasu a gwneud yr hyn rydyn ni bob amser wedi bwriadu ei wneud.
“Gallwn ni gael ein hysbrydoli wrth i’r enwogion roi cynnig arni, a dysgu gyda’n gilydd mewn un llais.”
Rwtîn, normalrwydd a chefnogaeth gymdeithasol
“Rydym wrth ein boddau o allu cefnogi ein dysgwyr – gyda’u dysgu ac o safbwynt lles, gan gynnig rwtîn, normalrwydd a chefnogaeth gymdeithasol yn ystod yr amgylchiadau digynsail hyn,” meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
“Rydym hefyd yn falch o allu parhau â’n gwasanaethau i ddysgwyr newydd.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â chwrs Cymraeg.”