Mae undeb gweithwyr tân yn galw ar Lywodraeth San Steffan i sicrhau bod diffoddwyr yn Lloegr yn cael eu profi ar gyfer y coronafeirws i’r un graddau â staff yng ngwledydd eraill Prydain.

Yn ôl Undeb y Brigadau Tân, mae’r gwasanaeth tân yn Lloegr wedi colli 12% o’r gweithlu wrth i ddiffoddwyr a staff cynorthwyol ynysu eu hunain.

Mae ystafelloedd galwadau wedi colli 15.9% o’u staff, gyda rhai ardaloedd wedi’u taro’n waeth na’i gilydd.

Mae’r undeb yn rhybuddio y gallai’r gwasanaeth tân gael ei ymestyn yn rhy bell heb brofion, ac maen nhw eisoes yn gweithredu ag 11,500 yn llai o ddiffoddwyr nag yr oedden nhw yn 2010.

Yn ôl ymchwil yr undeb, mae 472 o ddiffoddwyr a staff cynorthwyol yn Llundain yn ynysu eu hunain, bron 200 yn fwy na thair wythnos yn ôl.

Yng nghanolbarth Lloegr, mae 110 o weithwyr yn ynysu eu hunain.

Mae bron i 16% o weithlu tân Gorllewin Swydd Efrog yn ynysu eu hunain, a 13% yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

12% yw’r ffigwr yn Swydd Bedford.

Tra bod llywodraethau’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru eisoes wedi ymrwymo i gynyddu faint o weithwyr y gwasanaethau brys sy’n cael eu profi, dydy Llywodraeth Prydain ddim wedi gwneud y fath ymrwymiad.

Ymateb yr undeb

Dywed yr undeb nad yw James Brokenshire, y Gweinidog Diogelwch, wedi sôn am brofion yn ei lythyr atyn nhw.

“Mae Llywodraeth San Steffan yn chwarae â than drwy beidio â phrofi diffoddwyr tân a staff canolfannau galwadau ar gyfer y coronafeirws,” meddai Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Brigadau Tân.

“Ar hyn o bryd, mae timau yn cynnal gwasanaethau ond bydd hyn yn dod yn fwy anodd wrth i’r feirws ledu.

“Mae miloedd o ddiffoddwyr tân a staff cynorthwyol eisoes yn ynysu eu hunain, a dim ond canran fach fydd â’r haint.

“Os nad oes modd i ni ddarganfod pwy yn union sydd wedi’u heintio, a bod mwy o staff yn ynysu eu hunain heb fod angen, bydd gwasanaethau ar y dibyn.”

Mae’n cydnabod mai staff y Gwasanaeth Iechyd yw’r flaenoriaeth wrth gynnal profion, ond mae’n pwysleisio bod angen profi’r holl wasanaethau brys.

“Mae diogelwch y cyhoedd yn dibynnu ar eu gallu nhw i fynd i’r gwaith,” meddai wedyn.

“Mae angen strategaeth brofi glir a chyraeddadwy ar gyfer yr holl weithwyr y mae angen iddyn nhw barhau i weithio.

“Fe wnaeth y llywodraeth fethu â sicrhau citiau profi digonol yn gynnar yn y pandemig a nawr, mae gweithwyr y rheng flaen yn talu’r pris.

“Mae llywodraethau datganoledig wedi dechrau cymryd camau i’r cyfeiriad cywir ond yn San Steffan, mae amser yn aros yn llonydd – mae angen i weinidogion fynd i’r afael â’r argyfwng yma a sicrhau bod holl staff y gwasanaethau brys yn cael eu profi cyn gynted â phosib.”