Mae nifer o wledydd ar draws y byd yn dechrau ystyried llacio gwarchae’r coronafeirws, ond mae pryderon o hyd mewn sawl gwlad.

Mae De Corea yn rhybuddio y gallai manteision y gwarchae gael eu dadwneud wrth agor bariau a chyfleusterau hamdden.

Wrth i Sbaen adrodd y nifer leiaf o achosion dyddiol ddoe (dydd Sul, Ebrill 12), mae gweithwyr mewn rhai mesydd nad ydyn nhw’n hanfodol wedi cael dychwelyd i ffatrïoedd a safleoedd adeiladu.

Ac ar Sul y Pasg, roedd Cristnogion mewn sawl gwlad yn dathlu yn eu cartrefi eu hunain, wrth i Sgwâr San Pedr yn y Fatican aros ynghau i’r cyhoedd a bariau wedi’u codi i’w cadw nhw draw.

Ond cafodd gwasanaeth o fath gwahanol ei gynnal yn Fflorida, wrth i bobol ymgynnull yn eu ceir mewn maes parcio.

Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi bod yn dweud ei fod e wedi gobeithio agor y wlad eto erbyn y Pasg.

Ond mae mwy na hanner miliwn o achosion yn y wlad erbyn hyn, a mwy na 22,000 o bobol wedi marw, ac oddeutu eu hanner yn Efrog Newydd.

Yn yr Eidal, mae mwy na 12,500 o bobol wedi cael eu cosbi a 150 o bobol yn wynebu cyhuddiadau troseddol ar ôl anwybyddu rheolau gwarchae.

Twrci a Japan

Tra bod nifer yr achosion yn dechrau lleihau mewn rhannau helaeth o’r byd, mae achosion newydd ar gynnydd yn Nhwrci a Japan.

Mae 7,255 o achosion wedi’u cadarnhau yn Japan, gyda chynnydd sylweddol dros y dyddiau diwethaf.

Ond mae pobol yn dal i deithio i’r gweithio yno, hyd yn oed ar ôl i argyfwng gael ei gyhoeddi mewn nifer o ddinasoedd gan gynnwys y brifddinas Tokyo.

Mae Shinzo Abe, prif weinidog y wlad, wedi cyhoeddi fideo sy’n ei ddangos yn gweithio o adref, mewn ymgais i annog ei gydwladwyr i ddilyn ei esiampl.

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae mwy na 1.8m o bobol wedi cael eu heintio ar draws y byd, a mwy na 114,000 o bobol wedi marw.