Mae Syr Stirling Moss, un o fawrion y byd rasio ceir, wedi marw’n 90 oed.
Bu farw yn oriau man Sul y Pasg, yn ôl ei wraig.
Enillodd e 212 ras allan o 529 yn ystod ei yrfa.
Mae’n cael ei gydnabod fel y gyrrwr gorau i fethu ag ennill pencampwriaeth y byd, gan ddod yn ail bedair gwaith rhwng 1955 a 1961.
Bu’n sâl ers tro yn ei gartref yn ardal Mayfair yn Llundain.
“Bu farw yn y modd y bu’n byw, yn edrych yn arbennig,” meddai wrth y Daily Mail.
“Yn syml iawn, fe flinodd e yn y diwedd a chau ei lygaid hyfryd a dyna ni.”