Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson yn gwella o’r coronafeirws yn Ysbyty St Thomas yn Llundain ac mae bellach allan o’r uned gofal dwys yno.
Roedd wedi treulio tair noson yn yr uned gofal ddwys yno ar ôl i’w gyflwr waethygu dydd Llun. Mae bellach yn ôl mewn ward gyffredin.
Er bod llefarydd ar ei ran yn dweud ei fod mewn “hwyliau da iawn”, dywed ei dad, Stanley Johnson, y bydd arno angen cyfnod o orffwys cyn dychwelyd at ei waith.
“Mae’r teulu i gyd yn hynod o ddiolchgar am ymdrechion y Gwasanaeth Iechyd ac am y gefnogaeth i Boris,” meddai.
“Ond bydd rhaid iddo gymryd amser cyn dychwelyd at ei waith yn Rhif 10.
“Rhaid iddo orffwyso. Er ei fod wedi symud o’r uned gofal dwys dw i ddim yn meddwl y gallwch ddweud ei fod allan o berygl.
“Dw i ddim yn credu y gallwch gerdded i ffwrdd o hyn yn ôl i Downing Street ac ailgydio yn yr awenau heb gyfnod o addasu.”
Mae sylwadau Stanley Johnson yn cael eu dehongli fel cadarnhad y bydd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab yn dal i ddirprwyo fel Prif Weinidog dros y dyddiau nesaf.