Fe fydd Plant Mewn Angen a Comic Relief yn dod ynghyd ar Ebrill 23 i godi arian at yr ymdrechion yn erbyn y coronafeirws.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddod ynghyd, a bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw gan y BBC.

Bydd nifer o enwogion yn cymryd rhan o bell yn y digwyddiad rhwng 7 a 10 o’r gloch y nos.

Ymateb yr elusennau

“Mae’r rhain yn amserau heriol i nig yd, ac fe fydd y pandemig yn cael effaith sylweddol ar y bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai Simon Antrobus, prif weithredwr Plant Mewn Angen.

“Bydd y Big Night In yn cynnig cyfle i bawb (mewn modd rhithwir) i ddod ynghyd i ddathlu caredigrwydd ac arwriaeth y rhai sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau, ac i gefnogi pobol ledled y Deyrnas Unedig sydd angen ein help nawr yn fwy nag erioed.”

Ac mae Ruth Davison, prif weithredwr Comic Relief hefyd wedi canmol ysbryd y gymuned yn ystod y pandemig.

“Trwy gydol yr amser eithriadol hwn, mae caredigrwyd ac ysbryd y gymuned gan bobol ar draws y wlad wedi bod yn rhagorol,” meddai.

“Y Big Night In yw’r cyfle perffaith i ganmol yr arwyr sy’n gofalu amdanon ni, ein bwydo ni ac yn codi’n hysbryd wrth i ni barhau i helpu’r bobol fwyaf anghennus.”

Croesawu’r digwyddiad

Mae Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, yn dweud bod y digwyddiad yn “ffordd wych o sianelu’r haelioni rydyn ni’n ei weld gan bobol Prydain”.

“Mae’n wych gweld Plant Mewn Angen a Comic Relief y BBC yn dod ynghyd am y tro cyntaf i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, ac i ddathlu’r rhai sy’n mynd y tu hwnt [i’r disgwyl] yn eu cymunedau,” meddai.

“Rydyn ni’n cydweithio â’r BBC ac eraill i sicrhau bod y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr.”