Mae prif swyddog meddygol yr Alban wedi ymddiswyddo wedi iddi anwybyddu rheolau pellhau cymdeithasol wrth ymweld â’i thŷ haf.

Ymddiheurodd Dr Catherine Calderwood gan dderbyn cefnogaeth y Prif Weinidog, Nicola Sturgeon, i aros yn y swydd, er iddi deithio i’w hail gartref yn Fife ddwywaith.

Ond yn dilyn trafodaethau pellach gyda Nicola Sturgeon, dywedodd Dr Catherine Calderwood nos Sul (Ebrill 5) ei bod yn ymddiswyddo “gyda chalon drom.”

“Dw i’n ymddiheuro’n daer am y camgymeriadau rwyf wedi eu gwneud, dyma’r peth diwethaf roeddwn i eisiau wedi i mi weithio mor galed ar ymateb y llywodraeth i’r feirws.

“Y pethau pwysicaf i mi nawr yw bod pobl ar draws yr Alban yn ymwybodol o’r hyn mae angen iddyn nhw ei wneud i rwystro’r feirws rhag lledaenu ac mae hynny yn golygu ymddiried yn y cyngor sy’n cael ei roi iddyn nhw.”

“Cyngor cywir”

Ymddiheurodd Dr Catherine Calderwood yn wreiddiol wedi i luniau ohoni hi a’i theulu ger tref arfordirol Earlsferry gael eu cyhoeddi yn y Scottish Sun ddydd Sadwrn (Ebrill 4).

Derbyniodd rybudd gan yr heddlu am ei hymddygiad a dywedodd hi mewn cyfarfod ym mhencadlys Llywodraeth yr Alban yng Nghaeredin ddydd Sul ei bod hi wedi ymweld â’r tŷ yn Fife gyda’i gwr y penwythnos blaenorol.

Bydd hi’n gweithio gyda’i thîm “dros y dyddiau nesaf i sicrhau trawsnewidiad esmwyth” i’w holynydd.

Dywed Nicola Sturgeon nad oedd hi’n ymwybodol bod Dr Catherine Calderwood wedi ymweld â’r tŷ, sydd dros awr o daith o Gaeredin, tan nos Sadwrn.

Rhoddodd y Prif Weinidog gefnogaeth i gyngor y doctor, gan ddweud: “Mae Dr Calderwodd wedi rhoi’r cyngor cywir i’r llywodraeth ac i bobol yr Alban dros yr wythnosau diwethaf.

“Dylai pobol barhau i aros gartref er mwyn gwarchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac achub bywydau.”