Mae sylfaenydd easyJet wedi rhybuddio bydd dim arian ar ôl erbyn mis Awst wrth iddo alw eto am ganslo archeb gwerth £4.5bn gydag Airbus.
Mae Syr Stelios Haji-Ioannou hefyd wedi galw ar y cwmni i ddiswyddo’r prif swyddog ariannol Andrew Findlay.
Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl i’r gwr busnes alw am gyfarfod o gyfranddalwyr y cwmni i benderfynu a ddylid rhoi’r sac i gyfarwyddwr arall y bwrdd, Andreas Bierwirth.
Syr Stelios Haji-Ioannou sydd a’r gyfran fwyaf yn y cwmni hedfan.
Ddydd Gwener (Ebrill 3) roedd easyJet wedi gwrthod ei gais am gyfarfod a bellach mae Stelios Haji-Ioannou wedi galw am roi’r sac i Andrew Findlay gan ddweud mai “dyna’r ffordd orau i’w atal rhag ysgrifennu sieciau am filiwn o bunnau i Airbus bob blwyddyn.”
Daw hyn ar ôl i easyJet roi’r gorau i hedfan pob un o’i awyrennau wythnos ddiwethaf wrth i’r galw am hediadau ostwng yn sylweddol oherwydd pandemig y coronafeirws.
Mae’r prif weithredwr Johan Lundgren wedi awgrymu y byddai’r cwmni yn ystyried derbyn benthyciadau gan y Llywodraeth os oes angen.
Ond mae Stelios Haji-Ioannou wedi dweud na fydd angen benthyciadau’r Llywodraeth os yw’r cytundeb gydag Airbus yn cael ei ganslo. Ychwanegodd na fydd yn buddsoddi rhagor o arian yn y cwmni tra bod y cytundeb gyda Airbus yn parhau.