Mae’r Blaid Lafur yn galw am gau pob gweithle nad yw’n cynnig gwasanaeth hanfodol, gan bwyso ar Boris Johnson i fod yn fwy llym wrth weithredu mesurau’r coronafeirws.

Mae Rachael Maskell, llefarydd hawliau cyflogaeth y blaid, yn dweud bod gweithwyr mewn gweithleoedd fel ffatrïoedd a chanolfannau alwadau yn rhoi eu hunain mewn perygl wrth orfod anwybyddu mesurau ymbellháu cymdeithasol, sy’n gofyn fod pobol yn aros o leiaf ddwy fetr oddi wrth ei gilydd.

Ac mae hi’n dweud bod prinder cyfarpar diogelu a chyfleusterau hylendid mewn llawer o weithleoedd.

Fe fu’n rhaid i bob siop nad ydyn nhw’n gwerthu nwyddau hanfodol gau eu drysau yn sgil y mesurau, ond doedd y mesurau ddim yn cynnwys ffatrïoedd canolfannau galwadau nac unrhyw fath o warws.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno pecynnau cymorth i helpu gweithwyr sydd wedi’u heffeithio gan y mesurau.

‘Miloedd o enghreifftiau’

Yn ôl Rachael Maskell, mae hi wedi cael gwybod am filoedd o enghreifftiau o weithwyr mewn gweithleoedd nad ydyn nhw’n cadw at y mesurau diogelwch yn sgil y coronafeirws.

“O ganlyniad i hyn, nid yn unig mae gweithwyr yn agored i’r perygl o gael eu heintio, ond maen nhw mewn perygl o ymledu’r feirws hefyd,” meddai.

Mae hi’n dweud fod rhaid i lawer o weithwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y gwaith, a bod hynny’n cynyddu’r risg ymhellach.

“Rydym yn gwybod fod ymlediad y coronafeirws yn ymestyn adnoddau hanfodol y Gwasanaeth Iechyd, ond mae’r miloedd o enghreifftiau o gyflogaeth wael ond yn ychwanegu at y risg ry’n ni i gyd yn ei wynebu,” meddai.

“Rwy’n eich annog i gyflwyno mesurau llym i gau’r holl weithleoedd nad ydyn nhw’n hanfodol y gellir eu gweithredu, gan sicrhau bod bywydau gweithwyr yn cael eu diogelu hyd nes y bydd yn ddiogel i fusnes gychwyn eto yn unol ag arferion gwaith diogel.

“Byddai Llafur yn cefnogi cyflwyno’r fath fesurau ar unwaith, gydag adnoddau digonol i fonitro a gweithredu’r cynllun diogelwch hwn.”