Kate a Wills
Mae aelodau benywaidd am gael yr un hawliau â’r dynion yn y Teulu Brenhinol, sy’n golygu y gall merch ddod yn Frenhines hyd’noed os oes ganddi frawd bach.

Ddoe mi fyddai unrhyw ddyn yn dod yn Frenin yn awtomatig, hyd’noed os oess ganddo chwaer hŷn.

Ond heddiw mae’r 16 gwlad sy’n rhan o ymerdoraeth y Frenhines Elisabeth Yr Ail wedi cytuno i newid y cyfansoddiad.

Golyga’r newid os bydd Kate a Wills yn cael merch yn blentyn cyntaf, hi fyddai’n dod yn Frenhines hyd’noed pe bae ganddi frodyr bach.

Cafodd y diwygiad ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Prydain mewn cyfarfod o benaethiaid gwledydd y Gymanwlad yn Awstralia.

Yn ôl David Cameron roedd yr hen reolau “yn groes i’r gwledydd modern ag yr ydym heddiw”.