Mae athrawon yn paratoi at sefyllfa “heriol” yn sgil pryderon y gallai mwy o ddisgyblion na’r disgwyl ddod i’r ysgol heddiw (dydd Llun, Mawrth 23) er bod ysgolion wedi cau yn swyddogol i arafu lledaeniad y coronafeirws.
Mae rhieni wedi cael rhybudd y gallen nhw wynebu “sgyrsiau anodd” os ydyn nhw’n mynd a’u plant i’r ysgol a hwythau gyda ffyrdd eraill o sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod.
Mae’r Adran Addysg wedi annog rhieni i gadw eu plant gartref oni bai eu bod yn weithwyr allweddol ac nad oes ganddyn nhw unrhyw ffordd arall o warchod eu plant.
Dywedodd y gallai ysgolion ofyn am “dystiolaeth syml bod rhiant yn weithiwr allweddol, megis bathodyn ID neu slip cyflog.”
O dan gynlluniau’r Llywodraeth gall plant gweithwyr allweddol – sy’n cynnwys doctoriaid, heddweision a staff dosbarthu bwyd – fynychu’r ysgol fel eu bod yn cael eu gwarchod tra bod eu rhieni’n gweithio.
Daeth cyfarwyddyd ddydd Gwener (Mawrth 20) yn rhestru’r galwedigaethau a dweud y gallai plant sydd ag “o leiaf un rhiant neu ofalwr” sydd yn weithiwr allweddol “fynychu’r ysgol os oes angen.”
Dywed yr Ysgrifennydd Addysg, Gavin Williamson: “Os nad yw eich gwaith chi’n allweddol yn yr ymateb i coronafeirws, cadwch eich plentyn gartref os gwelwch yn dda.
“Bydd hyn yn helpu wrth arafu’r feirws rhag lledaenu, gwarchod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yn achub bywydau.”