Nando’s a Costa Coffee yw’r cwmnïau bwyd diweddaraf i gyhoeddi eu bod yn cau pob un o’u siopau yn y Deyrnas Unedig yn sgil y coronafeirws.
Mewn datganiad dywedodd Nando’s ddydd Sul (Mawrth 22) y byddai pob un o’u 420 o siopau’n cau gyda gwasanaeth pryd ar glyd hefyd yn cael ei atal.
Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 18,000 o bobol yn dweud ei fod yn gweithio’n agos gyda’u timau ar draws y Deyrnas Unedig “i sicrhau bod pawb sydd wedi’u heffeithio yn cael cymorth yn ystod yr wythnosau nesaf.”
Dywedodd y cwmni mewn datganiad bod diogelwch eu cwsmeriaid a’u staff yn flaenoriaeth a’u bod wedi cymryd y penderfyniad i gau eu bwytai ar draws y Deyrnas Unedig am y tro er mwyn ceisio atal lledaeniad Covid-19.
“Fe fydd y bwyd sy’n weddill yn cael ei roi i’r rhai hynny sydd ei angen fwyaf ar draws y gymuned,” meddai Nando’s.
Mewn datganiad tebyg dywedodd Costa Coffee ddydd Llun (Mawrth 23) eu bod nhw yn cau eu caffis dros dro o nos Lun am 7yh.
Ychwanegodd y cwmni y byddan nhw’n ceisio cadw eu caffis mewn ysbytai ar agor ac y byddai holl staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael coffi am ddim dros y bythefnos nesaf.
Fe fydd staff yn eu siopau sydd wedi cau yn derbyn eu cyflog llawn dros yr wyth wythnos nesaf, meddai’r cwmni.
Daw hyn ar ôl i McDonald’s gyhoeddi y bydd pob un o’u bwytai yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn cau o 7yh nos Lun (Mawrth 23).
Mae’r gadwyn o fwytai, sy’n cyflogi 135,000 o weithwyr, wedi dweud eu bod wedi gwneud “penderfyniad anodd” er mwyn diogelu eu staff a chwsmeriaid.
Fe fydd KFC a Burger King yn parhau ar agor ar gyfer prydau ar glyd ond yn cau eu siopau dros dro.