Mae staff y Gwasanaeth Iechyd, gofal cyhoeddus a’r sector bwyd ymysg y gweithwyr mae’r llywodraeth yn cysidro’n “hanfodol” ar gyfer ymateb i’r coronafeirws.
Cyhoeddodd Lywodraeth Prydain restr o “weithwyr hanfodol” yn oriau mân bore dydd Gwener (Mawrth 20), yn hwyrach na’r disgwyl.
Bydd plant y “gweithwyr hanfodol” yn parhau i dderbyn gofal mewn ysgolion yn ystod y pandemig coronafeirws.
Ar y rhestr o weithwyr hanfodol mae gweithwyr iechyd megis doctoriaid a nyrsys, yn ogystal â heddweision ac athrawon.
Rhestr eang
Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn cynnwys staff crefyddol, elusennau, newyddiadurwyr a’r rhai sy’n delio gyda’r meirw.
Hefyd mae pobol sy’n ymwneud â chynhyrchu, gwerthu a delifro bwyd hefyd ar y rhestr.
Ac mae gweinyddwyr cynghorau sir sy’n ymwneud â’r ymateb i’r feirws hefyd ar y rhestr.
Mae’r rhestr wedi ei wahanu i mewn i wyth categori, gan gynnwys iechyd, gofal cyhoeddus, addysg a gofal plant, gwasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth.
Yn ôl undebau, gallai’r rhestr fod mor eang nes ei fod yn creu trafferthion i ysgolion sydd eisoes yn brin o staff oherwydd y salwch.