Mae un o drigolion Pen Llŷn wedi erfyn ar berchnogion tai haf i gadw draw.

Mae Catherine Williams yn byw ym Motwnnog, yn gweithio yn archfarchnad Asda Pwllheli, ac wedi treulio’r pythefnos diwethaf yn gofalu am ei mam 80 oed.

Â’r coronafeirws yn lledaenu trwy’r Deyrnas Unedig mae cryn sôn wedi bod am bobol yn ffoi i ardaloedd gwledig er mwyn cuddio rhag y firws.

Yn gynharach yr wythnos hon roedd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, yn rhybuddio bod perygl i berchnogion tai haf roi straen ar y gwasanaeth iechyd yn yr ardal.

Pryder sawl un yw y gallai perchnogion tai haf roi straen ar feddygfeydd a siopau gwledig, ac mae Catherine Williams yn dweud bod y bobol hyn yn “anghyfrifol”.

“Wrth gwrs rydan ni eisiau gweld ymwelwyr yn dod,” meddai wrth golwg360. “Dydan ni ddim eisiau peidio gweld nhw’n dod yma. Ond ar y funud, tra bod hyn yn digwydd, plîs ystyriwch y [goblygiadau].

“Rydach chi mewn mwy o beryg yn fa’ma achos rydach chi’n bellach o’r ysbyty. Ac mae’n ysbytai ni yn mynd i fod yn nervous wrecks achos mae yna lai [o wlâu].”

Mae’r ddynes o Fotwnnog yn dweud iddi glywed am bobol o Lundain a drïodd ymaelodi â’i meddygfa leol yr wythnos hon. Does dim modd cael lle yn y feddygfa ar hyn o bryd, meddai.

Anarchiaeth yr archfarchnad

Mae Catherine Williams yn gweithio yn adran ddillad Asda ym Mhwllheli ac mae’n bwriadu dychwelyd i’w gwaith yr wythnos nesaf.

Mae’n dweud ei bod yn cysylltu â’i chydweithwyr “trwy’r adeg” a’i bod wedi clywed pob math o straeon.

“Mae pawb yn brysur, ac maen nhw jest yn trio pwyllo pobol,” meddai.

“Does dim rhaid panicio. Os ydy pobol jest yn prynu beth maen nhw’n arfer prynu mae yna ddigon i bawb…

“Penwythnos diwethaf roedd fy ffrind i’n dweud ei bod hi jest â chrïo – roedden nhw mor brysur… Literally doedd dim byd ar ôl.”

Mae’n dweud bod silffoedd wedi bod yn wag, bod cwsmeriaid wedi cael eu rhwystro rhag prynu mwy na thri eitem, a bod oriau’r siop wedi’u cwtogi (o 7-11 i 8-8).