Mae’r cyn-brif weinidog Gordon Brown wedi galw am fwy o gydweithredu rhyngwladol i fynd i’r afael ag argyfwng byd-eang coronafeirws.

“Problem fyd-eang yw hon – nid dim ond problem genedlaethol – ac mae’n gofyn am weithredu byd-eang ac nid gweithredu cenedlaethol yn unig,” meddai.

“Rydym wedi cael gormod o America’n gyntaf, India’n gyntaf, Tsieina’n gyntaf – gormod o’r cenedlaetholdeb popiwlist yma.

“Rydym yn darganfod ein bod ni wedi’n cysylltu â’n gilydd, yn dibynnu ar ein gilydd boed ni’n hoffi hynny neu beidio, a dw i’n meddwl bod yn rhaid i bobl roi eu gwahaniaethau heibio a bod cydweithredu rhyngwladol yn gwbl hanfodol i hyn.”

Mae hefyd yn pwyso ar y llywodraeth i wneud llawer mwy dros y ddeuddydd nesaf i warchod swyddi.

“Os na fyddwn ni’n gwarchod incwm teuluoedd mae llawer o ganlyniadau eraill: mae pobl yn ceisio mynd i’r gwaith pan maen nhw’n sâl, a rhoi eu hunain mewn perygl,” meddai.

“Mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hyn yn ddi-oed, a dw i’n gobeithio y bydd y Canghellor yn gweithredu cyn diwedd yfory.”