Mae ymweliad gwladol gan ymerawdwr Japan â Phrydain, a oedd i fod i ddigwydd ym mis Mai, wedi cael ohirio yn sgil ofnau am y coronafeirws.

Roedd yr Ymerawdwr Naruhito a’r Ymerawdres Masakois wedi trefnu i aros gyda’r Frenhines yng Nghastell Windsor.

Mae’r Frenhines, sy’n 93 oed, yn dilyn cyngor y llywodraeth i ymbellau ei hun yn gymdeithasol.

Dywedodd Buckingham Palace mewn datganiad fod y Frenhines wedi cytuno y dylid gohirio’r ymweliad gwladol ac y bydd yn cael ei drefnu ar ddyddiad arall yn ddiweddarach.