Mae archfarchnad Sainsbury’s yn cyflwyno mesurau i atal pobol rhag prynu nwyddau mewn panig yn sgil y coronafeirws.

Mae’r mesurau’n cynnwys agor eu drysau i’r henoed a phobol fregus yn unig yn ystod awr gynta’r dydd yfory (dydd Iau, Mawrth 18).

Ond bydd yr archfarchnad yn agor am awr ychwanegol ar ddiwedd y dydd er mwyn ymateb i’r galw gan bawb arall.

Bydd gan bobol dros 70 oed a phobol anabl flaenoriaeth wrth ddewis amserau i gael nwyddau i ddrws eu tŷ.

Mewn rhannau o dde-ddwyrain Lloegr, dyw pobol ddim yn gallu cael nwyddau gan Tesco na Waitrose i ddrws eu tŷ oherwydd fod y gwasanaeth dan gymaint o bwysau, ond mae Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, wedi llacio rheolau oriau gyrwyr sy’n cludo nwyddau hanfodol.

O yfory ymlaen, bydd Sainsbury’s yn cau eu caffis a chownteri cig, pysgod a pizza, a thri o bob peth fydd yr uchafswm y bydd cwsmeriaid yn cael prynu, a dau o’r nwyddau mwyaf poblogaidd fel papur tŷ bach, sebon a llaeth.

Tesco a Morrison’s

Daw’r mesurau ar ôl i Tesco orfod cyfyngu cwsmeriaid i hyn a hyn o nwyddau, yn enwedig nwyddau hylendid, pasta sych a phapur tŷ bach, ac fe fu’n rhaid diffodd yr ap am gyfnod oherwydd galw mor uchel.

Bydd holl siopau 24 awr Tesco ond ar agor rhwng 6yb a 10yh.

Mae Morrison’s, yn y cyfamser, wedi cyhoeddi y bydd yn creu 3,500 o swyddi er mwyn ateb y galw cynyddol am nwyddau.

Bydd 2,500 o yrwyr a chynorthwywyr yn cael eu cyflogi, yn ogystal â 1,000 o weithwyr canolfannau dosbarthu.

Mae cynlluniau hefyd i agor canolfan alwadau i bobol sydd heb fynediad i’r we.